
Y Siambr Fasnach | Cyngor y Dref | Grwpiau Cymunedol | Rhaeadr 2000
Mae tref Rhaeadr, yng nghalon Cymru yn adlewyrchiad o fywydau croesawgar pobl yr ardal, sydd â phoblogaeth o ryw 2000.
Mae rhywbeth at ddant pawb yma, beth bynnag fo'ch oedran a'ch bryd, oherwydd mae amrywiaeth o grwpiau wedi'u sefydlu yn Rhaeadr a'r ardal gyfagos, ardal sydd yn llawn prysurdeb a gweithgaredd.
Mae'r ardal erioed wedi ymfalchïo yn ei lleoliad, ac yn ei thrigolion. Oherwydd hyn, rydym yn frwdfrydig iawn am wneud y gorau o'r hyn sydd gennym, ac i wneud gwelliannau fydd yn gwella'r ardal hefyd. Mae'r gymuned yn trefnu digwyddiadau'n rheolaidd sydd yn denu pobl y dref yn ogystal â phobl o yma ac acw. Rydym yn caru ein cynefin ac am rannu'r awyrgylch a'r golygfeydd gyda chi.
Mae llawer o'r grwpiau yn trefnu rhaglen weithgareddau a digwyddiadau ac yn estyn croeso i unigolion ymuno yn yr hwyl.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am agwedd sydd o ddiddordeb i chi, edrychwch ar y manylion o dan grwpiau cymunedol, a chysylltwch â nhw - maent yn sicr o fod yn falch i gael cyfle i ateb eich cwestiynau.
|