
Am ysbrydoliaeth - dewch i Rhaeadr.
Mae'r dref a'r ardal gyfagos yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n edrych am weithgareddau trwy gydol y flwyddyn, boed hynny'n daith gerdded hamddenol ar hyd Afon Gwy, neu feicio'n egnïol ar hyd y mynyddoedd creigiog, mae'r wlad ysblennydd yn cynnig cefndir sy'n ysbrydoliaeth i unrhyw weithgaredd.
Mae Cwm Elan, stad o 70 milltir sgwâr dan ddwr ychydig filltiroedd o'r dref, yn hynod o hardd, ac yn gartref i rai o blanhigion a bywyd gwyllt mwyaf prin ynysoedd Prydain, yn ogystal â bod yn enghraifft o waith peirianneg gwych - profiad penigamp beth bynnag fo'ch bryd.
 |
Mae Rhaeadr yn cynnig cyfleusterau pysgota gwych oherwydd mai dyma'r dref gyntaf ar hyd llwybr Afon Gwy, ac oherwydd ei chysylltiadau i Lynnoedd Cwm Elan. Mae llynnoedd ysblennydd Cwm Elan a milltiroedd diddiwedd Afon Gwy yn cynnig amrywiaeth eang i'r pysgotwr craff. Mae Llyn Gwyn, llyn naturiol sydd yn perthyn i'r Gymdeithas Bysgota, a defnyddiwyd yn ôl pob tebyg gan y mynachod, yn llawn brithyll brown ac yn cynnig pysgota trwy gydol y flwyddyn. Mae trwyddedau rhesymol Cymdeithas Bysgota Rhaeadr ar gael o siopau papurau newydd lleol.
|
Mae'r llwybrau cerdded sydd yn croesi'r bryniau a dyffrynnoedd hardd yn ddelfrydol i'r cerddwr sy'n gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal fynyddig osgeiddig hon, yn ogystal â'r hanes naturiol a heddwch y wlad o gwmpas y dref.
Mae Llwybr Glan yr Afon yn dilyn yr Afon Gwy trwy'r dref, ac yn rhoi amser i chi fwynhau'r amrywiaeth o fywyd gwyllt ar hyd y glannau tra mae Llwybr Cwm Gwy, tua diwedd ei daith o 218km (136 milltir), yn troelli ar hyd strydoedd Rhaeadr cyn troi tua Llangurig a'i tharddle neu i lawr yr afon tua Llanwrthwl. Mae glannau afon Gwy, tua gogledd a de'r dref, yn cynnig heddwch a harddwch, ac mae'r afon gyfan a'i glannau yn safleoedd diddordeb gwyddonol arbennig.
Mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau march a lonydd tawel yn sicrhau fod Rhaeadr yn lleoliad delfrydol i feicwyr o bob oed a gallu wrth iddynt grwydro'r ardal. Gellir hurio beiciau yn y dref, a gallwch grwydro a manteisio ar y golygfeydd gwych ar hyd Llwybr Elan, llwybr 13 km (8 milltir) sy'n rhedeg o'r dref drwy wlad brydferth o gwmpas llynnoedd Cwm Elan. Mae'r llwybr yn ddiogel ac yn neilltuol ar gyfer ymwelwyr, boed yn cerdded, neu'n beicio neu mewn cadair olwyn, yn ogystal â phlant.
|
 |
Ar gyrion Rhaeadr, ar y ffordd tua Chwm Elan, mae Llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans (8) yn cynnig cyfle perffaith i'r beiciwr pellter hir alw fewn a gwerthfawrogi'r bwyd a diod leol.
Mae coedwigoedd derw, cerrig brig creigiog a ffermdir heb ei llygru yn golygu mai dyma'r lle gorau yn y wlad i wylio adar prin megis y barcud coch, yr hebog, y gwybedog brith a'r tingoch.
 |
Mae'r ardal o gwmpas Rhaeadr yn enwog am y Barcud Coch, a gellir gweld yr adar hyn yn bwydo bob dydd yng Nghanolfan Y Barcud Coch, Fferm Gigrin ar gyrion y dref. Daw dros 150 o farcudiaid yn ddyddiol i fwydo yn y prynhawn yng Nghanolfan Barcudiaid Gigrin, heb sôn am y bodaod a'r cigfrain. Mae llwybr natur hefyd ar y fferm sy'n eich tywys trwy'r wlad.
|
Yn ystod yr haf, cynhelir Gwyl yr Awyr Agored i ddathlu wlad anhygoel yr ardal. Mae'r Wyl, sydd yn parhau am bythefnos, yn annog ymwelwyr i brofi'r gweithgareddau llu sydd ar gael yn Rhaeadr a'r ardal.
Mae Canolfan Hamdden y dref yn cynnig cyfleusterau megis campfa, sboncen, pwll nofio a solariwm - felly, beth am ymweld â'r Canolfan yn ystod eich ymweliad?
Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae ffatri Grisial Brenhinol Cymru wedi denu ymwelwyr o bob tu. Cewch gyfle i wylio sgiliau chwythu gwydr yn Stiwdio Gwydr Elan gerllaw yn ogystal ag ymweld â'r ystafell arddangos ar y safle.
Os am deithio ymhellach, gellir defnyddio Rhaeadr fel man aros tra'n crwydro'r ardal sydd yn llawn trysorau ym mhob cyfeiriad, o'r ffordd fynyddig i Gwm Ystwyth tua'r gorllewin, neu i darddleoedd afonydd Gwy a Hafren tua'r gogledd.
Mae Gwarchodfa Natur Gilfach bedair milltir tua'r gogledd, ac yma cewch fwynhau profiad unigryw o safbwynt bywyd gwyllt. Mae'r Warchodfa mewn 200 erw o wlad ddramatig, ac ynddi mae afon ucheldirol, coetiroedd derw sesil, ffriddoedd a rhostir ucheldirol. Mae'r warchodfa yn rhoi cyfle i chi brofi amrywiaeth cyfoethog natur, sy'n amrywio o ddyfrgwn i ffwlbartiaid, ac i weld hen dy hir Cymreig a adnewyddwyd yn ofalus.
Tua 1143, roedd Abaty Cwm Hir, sydd gerllaw, yn gartref i'r adeilad crefyddol ail o ran maint yn Ewrop, a chladdwyd Llywelyn ap Gruffydd, tywysog olaf Cymru yng ngweddillion yr abaty. Mae llwybr o'r enw "Monks Trod" yn cysylltu Abaty Ystrad Fflur, sydd yn chwaer-abaty i Abaty Cwm Hir, dros fynyddoedd Cwm Elan.
...cymaint i'w wneud....mewn cymaint o ffyrdd.
|