
Hanes y Dref
Rhaeadr yw dref hynaf Canolbarth Cymru, yn dyddio'n ôl i'r 5ed ganrif, er bod gweddillion Neolithig yn dangos fod pobl wedi byw yma ers cyn hynny. Yn wreiddiol, roedd dwy nodwedd naturiol yn gwahaniaethu'r dref:
 |
- Gweddillion y rhaeadr wreiddiol yw'r rhaeadr sydd i'w gweld heddiw - ffrwydrwyd y rhaeadr wreiddiol ym 1780 i glirio ffordd i'r bont, ac o hynny y deilliodd yr enw Rhaeadr Gwy.
- Y rhyd i lawr yr afon sydd yn arwain i'r lan gyferbyn yn Llansantffraid Cwmdeuddwr - Eglwys Sain Ffraid sydd yn uno'r dyfroedd.
|
|
Mae Rhaeadr yng nghalon Cymru, hanner ffordd rhwng Henffordd ac Aberystwyth, a hanner ffordd rhwng Eryri a Bannau Brycheiniog. Mae tref Rhaeadr rhyw 700 troedfedd uwchben lefel y môr ym mhen uchaf dyffryn hardd afon Gwy, ac yng nghanol bryniau sydd yn codi i ychydig dros 1500 troedfedd. Dyma'r dref gyntaf ar hyd yr afon Gwy, rhyw 20 milltir o darddle'r afon ym mynyddoedd Pumlumon tua'r gogledd. Mae'r dref hefyd yn borth i lynnoedd gosgeiddig Cwm Elan.
|
|
Mae'r dref, sydd o fewn dwy awr i Gaerdydd, Manceinion a Birmingham, a dim ond pedair awr o Lundain yn groesffordd naturiol ac wedi bod yn fan aros naturiol i bobl leol a theithwyr ers cyfnod y Rhufeiniaid, oedd wedi gosod gwersyll yng Nghwm Elan, i fynachod oedd yn teithio rhwng Abaty Ystrad Fflur ac Abaty Cwm Hir, ac i'r Porthmyn ar eu ffordd i farchnadoedd mewn trefi pell gyda'u da byw, a fyddai'n dychwelyd gyda nwyddau a newyddion.
|
 |
Ymysg bryniau naturiol mynyddoedd Cambria, mae gwestai croesawgar, tai gwely a brecwast a safleoedd gwersylla yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer gweithgareddau awyr agored megis gwylio adar, beicio ar y mynyddoedd, merlota, cerdded, gwyliau carafán, pysgota a llawer o weithgareddau eraill.
Does dim tâl am barcio yn y dref, felly cewch grwydro ar draed neu ar feic o gwmpas yr ardal - cyfle i fwynhau natur a'r harddwch sydd o'ch cwmpas.
|