Things to do in Rhayader, Mid Wales

Section Six - Llanwrthwl to Cwmdeuddwr



Trail Overview | Section 1 | Section 2 | Section 3 | Section 4 | Section 5 | Section 6 | Section 7


image

Download map and detailed directions for this section

St Gwrthwl’s Church, Llanwrthwl

A late Victorian building on a 4,000 year old site with large sacrificial stone.  The font is 13th century, possibly from Abbey Cwmhir.  The valley leads up to the original abandoned village.  The area abounds in bronze age cairns, standing stones and circles. Legends surround Carn Gafallt, named for King Arthur’s hound, Saith Maen, seven maidens turned to stone by St Gwrthwl for dancing on Sunday and Drygarn Fawr and Gamriw with their massive cairns.

Little is known of St Gwrthwl, “The Confessor” who could have founded his church in the 5th or 6th Centuries with connections with Vortigern or St David and St Afan. His saint’s day is the 2nd March.

Of note is Penuel URC Chapel to the South dating from 1832

Eglwys Sant Gwrthwl, Llanwrthwl

Adeilad o’r cyfnod Fictoraidd diweddar ar safle 4,000 mlwydd oed gyda charreg aberthol fawr.  Mae’r bedyddfaen yn perthyn i’r drydedd ganrif ar ddeg, o bosibl o Abaty Cwmhir.  Mae’r dyffryn yn arwain i fyny at y pentref gwreiddiol sydd bellach yn anghyfannedd.  Mae llu o garneddau, meini hirion a chylchoedd o’r oes efydd yn yr ardal. Mae chwedlau yma sy’n gysylltiedig â Charn Gafallt, a enwyd ar ôl ci’r Brenin Arthur; Saith Maen, saith o forynion a gafodd eu troi’n garreg gan Sant Gwrthwl am ddawnsio ar Ddydd Sul a Drygarn Fawr a Gamriw gyda’u carneddau enfawr.

Ychydig sy’n wybyddus am Sant Gwrthwl, ‘Y Cyffeswr’ a allai fod wedi sylfaenu ei eglwys yn y 5ed neu’r 6ed ganrif ac a oedd â chysylltiadau gyda Gwrtheyrn neu Ddewi Sant a Sant Afan.  Dydd y nawddsant hwn yw 2 Mawrth.

Mae Eglwys Ddiwygiedig Unedig Penuel a leolir i’r De ac sy’n dyddio o 1832 yn werth ei nodi.